Mae grŵp o wirfoddolwyr lleol ymroddedig yn falch o gyhoeddi menter newydd gyffrous i drawsnewid Capel hanesyddol y Tabernacl yn Aberteifi yn ganolbwynt cymunedol bywiog, o’r enw Hwb Aberteifi. Nod y prosiect uchelgeisiol hwn yw creu gofod amlbwrpas sy’n dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Aberteifi tra’n darparu canolbwynt ar gyfer addysg, cerddoriaeth, barddoniaeth, a gweithgareddau cymunedol.
Gweledigaeth ar gyfer Hwb Aberteifi
Mae gan hen Gapel y Tabernacl, adeilad o oes Fictoria, botensial aruthrol fel ased cymunedol. Ar ôl ei adfer, bydd Hwb Aberteifi yn cynnig:
· Canolfan ddiwylliannol ac addysgol yn arddangos gweithiau'r bardd a'r Archdderwydd lleol, Dic Jones.
· Stiwdio gerddoriaeth a gofod recordio ar gyfer y label cerddoriaeth gymunedol, Fflach Cymunedol, sy'n bwriadu dychwelyd i festri'r Tabernacl i arddangos artistiaid lleol.
· Man galw heibio i drigolion ac ymwelwyr i drafod a datblygu gweithgareddau a mentrau newydd ar gyfer y dref.


_edited_edited.jpg)