top of page


Diweddariad ar y Tabernacl Ionawr 2026
Mae saga’r colomennod yn parhau. Tan yn ddiweddar, maent wedi bod yn nythu yn atig y festri. Bu gweithwyr arbenigol yn eu hel o’r atig ac yn clirio’ r llanast. Llanwyd 77 llon sach o wastraff colomennod o’ r atig! Rydym wir yn gobeithio bod y broblem wedi ei ddatrys erbyn hyn. Yn fuan iawn byddwn yn medru dechrau paentio a thacluso tu fewn y festri dop. Soniwyd mis diwethaf bod ein tenantiaid cyntaf - sef dosbarth addysg oedolion - yn dechrau ar ôl hanner tymor mis Chwefror.
hwbaberteifi
Feb 42 min read


Diweddariad ar y Tabernacl Rhagfyr 2025
Wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn, rydym yn hapus i rannu y bydd ein tenant cyntaf, sef Adran Addysg Oedolion y Cyngor, yn dechrau cynnal cyrsiau o hanner tymor Chwefror ymlaen. Bydd y rhain yn cael eu cynnal yn y festri. Diolch i Cynnal y Cardi am gyllid i’n galluogi prynu cadeiriau, byrddau a chyfarpar ar gyfer hwyluso’r cyrsiau. Rydym newydd glywed bod ein cais am grant i’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ar gyfer astudiaeth dichonoldeb ar brosiect Hwb Aberteifi wedi b
hwbaberteifi
Feb 42 min read


Diweddariadau Tabernacl Tachwedd 2025
Mae’r gwaith adnewyddu y bwthyn bron ar ben. Gorffennwyd y gwaith paentio ac mae’r problemau lleithder wedi cael eu datrys. Dim ond man bethau sydd angen sylw tu fewn y bwthyn ac rydym yn obeithiol y bydd gennym denant yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mae mwy o waith tu fas i'r wal sy’n wynebu ‘r Pendre ond bydd modd gwneud hyn heb amharu ar y tenantiaid nes ymlaen yn y flwyddyn newydd. Diolch i'r holl wirfoddolwyr am helpu gyda'r paentio a'r trwsio. Mae'r gwaith o waredu'r co
hwbaberteifi
Feb 41 min read


Diweddariadau Tabernacl Hydref 2025
Erbyn hyn, mae’r nenfydau uwchben y ddau ddrws mynediad i'r Tabernacl wedi'u hatgyweirio, ac rydym eisoes yn symud ymlaen at y camau nesaf o’ r gwaith. Mae hwn yn cynnwys adnewyddu'r bwthyn fel y gall tenant symud i mewn. Ein gobaith yw bydd y gwaith ar y bwthyn wedi'i gwblhau erbyn diwedd y mis. Rydym yn gobeithio gosod y bwthyn yn fuan, felly os ydych chi'n adnabod rhywun sy’n chwilio am dy i’w rhentu, rhowch wybod i ni. Wedyn byddwn yn symud ymlaen at gael gwared ar y baw
hwbaberteifi
Feb 41 min read


Diweddariad ar y Tabernacl Medi 2025
Wrth i ni symud i fisoedd olaf 2025, mae prosiect y Tabernacl yn cyrraedd uchelfannau newydd. Mae mis Medi wedi bod yn llawn datblygiadau cyffrous, sy'n arddangos ymroddiad pawb ac sy'n rhan o’r broses a’r gefnogaeth gynyddol gan y gymuned. Mae’r blogbost hwn yn cynnig golwg fanwl ar y cerrig milltir allweddol a’r diweddariadau a gyflawnwyd y mis hwn. Mae'r Cynnig Cyfranddaliadau gan y Tabernacl wedi bod yn llwyddiannus. Codwyd mwy nac oeddwn wedi ei ddisgwyl ac mae hynny wed
hwbaberteifi
Oct 22, 20252 min read
bottom of page
