Diweddariad ar y Tabernacl Chwefror 2026
- hwbaberteifi
- Mar 12
- 1 min read
Rydym yn falch o rannu gyda chi bod tenant wedi symud i mewn i'r bwthyn ar ddechrau mis Mawrth. Ar ôl y Pasg, byddwn yn trefnu gweithgareddau wythnosol i oedolion sy'n byw gyda dementia (uchafswm o 10 i ddechrau) a fydd yn cael eu hwyluso gan 'micros' neu ofalwyr cymwys. Bydd y sesiynau yn cynnig hoe i'w gofalwyr di-dâl er mwyn iddynt fwynhau peth amser i ffwrdd o’u dyletswyddau gofal. Os ydych chi'n ofalwr di-dâl i oedolyn sy'n byw gyda dementia ac hoffech ddysgu mwy am y cynnig, cysylltwch â Sue Lewis (Planed) ar 07442681883.
Bydd dosbarth Dysgu Oedolion o dan nawdd awdurdod Cyngor Ceredigion hefyd yn cael ei gynnal yn y festri yn fuan ar ôl gwyliau’r Pasg.
Rydym wedi cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb (MoDd) i CADW ar gyfer grant i drwsio a phaentio y tu allan i'r capel. Os caiff ein MoDd ei gymeradwyo, byddwn yn cyflwyno cynnig llawn. Mae grant CADW yn ddibynnol ar gyllid cyfatebol, felly rydym hefyd wedi cyflwyno cais o dan gynllun cyllido Trawsnewid Trefi ar gyfer y diben hwn. Rydym hefyd wedi cyflwyno ceisiadau grant i drwsio'r bloc toiledau.
Erbyn hyn, mae Hwb wedi gwario 70% o'r incwm a dderbyniwyd ar gychwyn y fenter, felly gallwn wneud cais i GTHEF (HMRC) am dystysgrif SEIS. Unwaith y bydd Hwb wedi derbyn y dystysgrif SEIS a'r rhif cyfeirio cysylltiedig, byddwn yn danfon y manylion hyn at bob cyfranddaliwr. Fydd hyn yn eich galluogi i hawlio'r 50% o ostyngiad treth ar eich buddsoddiad.








