top of page

Diweddariad ar y Tabernacl Ebrill 2026

  • hwbaberteifi
  • May 11
  • 1 min read

Trist yw cyhoeddi marwolaeth un o'n cefnogwyr mwyaf selog a gweithgar sef

Kathleen Martin. Roedd hi’n wyneb adnabyddus o amgylch y dref, bu’n flaengar

mewn nifer o sefydliadau a chymdeithasau gan gynnwys y Siop Lyfrau Gymunedol,

Cymdeithas Aberteifi, JigSo a'r clwb croquet lleol. Bydd Hwb Aberteifi yn colli ei

chyfraniadau a’u gwaith diwyd.

Diolch i bawb a ddaeth i'r bore coffi ar ddydd Sadwrn Barlys. Bu’r sgyrsiau yn gyfle i

ni rannu ein cynlluniau a’r datblygiadau diweddar yn ogystal â’r defnydd cyfredol o’r

adeilad. Rydym yn obeithiol y gallwn gychwyn yn fuan ar wella cyflwr allanol yr

adeilad a’r newyddion da yw bod gennym gynnig rhagweithiol ar gyfer grant gan

CADW ar gyfer y gwaith. Y cam nesaf fydd sicrhau cyllid cyfatebol cyn ein bod yn

bwrw ati.

Yn y cyfamser, mae gweithgareddau'r Festri dop yn prysuro gyda nifer o grwpiau yn

awyddus i ddefnyddio’r gofod. Os oes gan gymdeithasau neu elusennau ddiddordeb

mewn defnyddio’r stafelloedd ar gyfer bore coffi neu gyfarfod, cysylltwch ag unrhyw

un o’r pwyllgor neu hwbaberteifi@gmail.com.

Rydym yn chwilio am aelodau newydd i ymuno a’r pwyllgor yn enwedig os oes

gennych arbenigeddau mewn cyllid, pensaernïaeth, codi arian neu materion

cyfreithiol. Cysylltwch ag unrhyw un ohonom neu defnyddiwch y cyfeiriad e-bost

uchod.





 
 

01239-920223

4CG, Pwllhai, Aberteifi SA43 1DB

Tanysgrifiwch i'n Blog

Cysylltwch â Ni

bottom of page