Diweddariad ar y Tabernacl Mawrth 2026
- hwbaberteifi
- Apr 15
- 1 min read
Ar wahân i’r Pasg, y digwyddiad mawr ym mis Ebrill yw Dydd Sadwrn Barlys sydd ar
Ebrill 25. Hoffwn eich gwahodd i gael paned o de neu goffi gyda ni yn y festri o
10.00 -12.00 yn y bore er mwyn i chi cael eich diweddaru am y datblygiadau hyd
yma. Nid yw hynny’n golygu bod popeth yn y festri wedi’i gwblhau; mae dal llawer i’w
wneud megis peintio a thynnu’r carpedau i fyny a byddwn yn anelu i wneud hynny
ym mis Awst. Ond mae’r festri yn addas ar gyfer cynnal dosbarthiadau addysg
oedolion yn fuan wedi’r Pasg yn ogystal â chynnal sesiynau i gefnog pobl sy’n byw
gyda dementia. Mae’r prosiect hwn yn dechrau ar Ebrill 15. Bydd pobl hyfforddedig
yn trefnu’r gweithgareddau sy’n galluogi’r gofalwyr i gael dwy awr o hoe o’u
dyletswyddau gofal.
Rydym yn disgwyl yn eiddgar am ganlyniad nifer o geisiadau grant fel y gallwn fwrw
ymlaen gyda phaentio ac adnewyddu tu allan y capel a byddwn yn clywed deilliant yr
un cyntaf ar Ebrill 8. Rydym hefyd wedi gwneud cais am grant Trawsnewid Trefi a
bydd y penderfyniad ynglŷn â’r grant yma yn cael ei rannu ar ddiwedd Mai.
Yn y cyfamser, mae History Ventures yn paratoi astudiaeth dichonolrwydd a
chynllun busnes ar ein rhan fydd ar gael ddiwedd Ebrill. Bydd yr adroddiad yn
cynnwys nifer o argymhellion a byddwn yn rhannu'r rain a gofyn am eich barn. Yn y cyfamser, edrychwn ymlaen at eich gweld ar Ebrill 25.







