top of page

Diweddariad ar y Tabernacl Awst 2026

  • hwbaberteifi
  • 11 minutes ago
  • 1 min read


Mae draig enfawr yn dominyddu ac yn ymddangos fel petai yn gwarchod

y Tabernacl yn un o’r llu o atgofion o’r Eisteddfod fel y tystia nifer o

ymwelwyr wedi eu hymweliad â’r dref. Yn bersonol, byddwn wrth fy

modd yn ei weld yn aros drwy gydol yr haf gan ei fod wedi creu gymaint


o gynnwrf. Diolch i Rich am y syniad ac i Rhodri a Penny Forsyth am eu

cymorth yn creu a gosod y ddraig yn ei le.

Mae rhywfodd hefyd yn atgoffa pobl y dref a’r ymwelwyr bod y Tabernacl

yno i bawb. I’r corau bu’n ymarfer yn y capel cyn eu cystadlaethau ar y

llwyfan ein Prifwyl ac i’r rhai sy’n mynychu’r yn rheolaidd rai o’r

digwyddiadau a gynhelir yn wythnosol.

Rydym wedi derbyn grant gan Gronfa Dewi Davies i dalu am welliannau

i'r cyfleusterau sy’n golygu bydd y lle yn brysur gyda gweithgaredd

adnewyddu a thrwsio yn y misoedd nesaf.

O fis Medi, cynhelir llawer mwy o ddosbarthiadau addysg oedolion

rheolaidd a digwyddiadau amrywiol. Bydd hyn yn gwneud hi'n gyfnod

prysur i’r gwirfoddolwyr sy’n sicrhau bod y drysau ar agor, yr ystafelloedd

yn lân a chymen cyn ac ar ôl digwyddiadau. Rydym angen mwy o

wirfoddolwyr i roi help llaw, felly os oes gennych ddiddordeb i

gynorthwyo mewn unrhyw ffordd, rhowch wybod! Galwch heibio os

ydych chi'n gweld y drws ar agor neu siaradwch gydag un ohonom wrth

basio. Gallwch hefyd fynegi diddordeb drwy ddanfon neges e-bost i






 
 

01239-920223

4CG, Pwllhai, Aberteifi SA43 1DB

Tanysgrifiwch i'n Blog

Cysylltwch â Ni

bottom of page