Diweddariad ar y Tabernacl Mai 2026
- hwbaberteifi
- 6 days ago
- 1 min read
Mae'n teimlo fel petawn ni wedi cymryd un cam ymlaen ac yna dau gam yn ôl dros y mis diwethaf. Fel y gwyddoch, llwyddom i waredu’r colomennod o atig y
Festri, ond bellach maen nhw wedi dychwelyd. Yn fuan byddwch yn gweld drôn yn hedfan dros yr adeilad er mwyn canfod sut maen nhw yn dod i mewn, gyda’r nod
o’u hatal unwaith yn rhagor.
Ar 9 Mehefin bydd arolwg yn cael ei gynnal i wirio os oes ystlumod yn nythu yn nhoeau’r capel neu’r festri.
‘Rydym yn croesi bysedd y bydd popeth yn glir.
‘Rydym wedi amserlenni nifer o ddosbarthiadau dysgu oedolion ychwanegol yn ogystal â dosbarthiadau Cymraeg yn y ‘Festri’. Mae tri chwrs blasu’r Gymraeg yn
yr wythnosau nesaf yn benodol ar gyfer pobl sydd yn newydd i’r Gymraeg ac yn bwriadu ymweld â’r Eisteddfod ym mis Awst.
Ychydig wythnosau yn ôl efallai i chi fynd heibio'r capel a chlywed côr yr Eisteddfod yn morio canu yn y capel wrth baratoi am eu perfformiadau yn yr Eisteddfod. Yn
ogystal, bydd dau gôr lleol hefyd yn defnyddio'r capel i ymarfer ar gyfer eu cystadlaethau cyfatebol yn yr Eisteddfod.
Gallwn nawr ymgeisio am statws SEIS. Dylid cyflwyno'r cais ym mis Mehefin. Mae’n anodd dweud pa mor hir bydd HMRC yn cymryd i ymateb, ond o bosib fydd yn
cymryd ychydig o fisoedd.






