Diweddariadau Tabernacl Hydref 2025
- hwbaberteifi
- Feb 4
- 1 min read
Erbyn hyn, mae’r nenfydau uwchben y ddau ddrws mynediad i'r Tabernacl wedi'u hatgyweirio, ac rydym eisoes yn symud ymlaen at y camau nesaf o’ r gwaith.
Mae hwn yn cynnwys adnewyddu'r bwthyn fel y gall tenant symud i mewn. Ein gobaith yw bydd y gwaith ar y bwthyn wedi'i gwblhau erbyn diwedd y mis.
Rydym yn gobeithio gosod y bwthyn yn fuan, felly os ydych chi'n adnabod rhywun sy’n chwilio am dy i’w rhentu, rhowch wybod i ni.
Wedyn byddwn yn symud ymlaen at gael gwared ar y baw colomennod a'r colomennod eu hunain o'r festri. Mae hwn yn waith arbenigol iawn a bydd angen cymryd camau diogelu gofalus. Pan fydd hyn wedi'i gwblhau, gallwn atgyweirio'r nenfydau fydd yn sicrhau bod y festri uchaf yn barod ar gyfer ei ddefnyddio unwaith eto.
Yn y Tabernacl ei hun mae angen ail osod llechi sydd wedi disodli neu lacio dros amser . Mae'r gwaith yma ar y gweill a phan fydd wedi'i gwblhau, byddwn yn dechrau ar y dasg o adfer ac atgyweirio'r tu mewn.
Rydym yn ddiolchgar iawn i bob un ohonoch am eich cefnogaeth, nid yn unig am brynu cyfranddaliadau ond hefyd am roi o’ch amser i glirio chwyn a malurion, ac am gynorthwyo gyda’r peintio ac addurno.

Ymweliad 'Prynhawn Da' - diolch i Daf Wyn a'r Prynhawn Da, criw teledu S4C am ymweld â Thabernacl Aberteifi, Hwb Aberteifi ddechrau mis Hydref.
Da gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect hwn yng nghanol y dref, rhan fach o adfywio parhaus Aberteifi.










