top of page

Diweddariad ar y Tabernacl Rhagfyr 2025

  • hwbaberteifi
  • Feb 4
  • 2 min read

Wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn, rydym yn hapus i rannu y bydd ein tenant

cyntaf, sef Adran Addysg Oedolion y Cyngor, yn dechrau cynnal cyrsiau o hanner

tymor Chwefror ymlaen. Bydd y rhain yn cael eu cynnal yn y festri. Diolch i Cynnal y

Cardi am gyllid i’n galluogi prynu cadeiriau, byrddau a chyfarpar ar gyfer hwyluso’r

cyrsiau.

Rydym newydd glywed bod ein cais am grant i’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ar

gyfer astudiaeth dichonoldeb ar brosiect Hwb Aberteifi wedi bod yn llwyddiannus.

Bydd y swm o £14,000 yn ein galluogi i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol i gynnal

astudiaeth dichonoldeb o’r cynlluniau cynnar. Bydd yr astudiaeth yn cynnwys


ymgysylltu â’r gymuned a chyfarfodydd grwpiau ffocws yn ogystal â thrafodaethau â

Thîmau Dylunio ac Ymgynghorwyr.

Mae ffenestri blaen y Capel wedi cael eu goleuo ar gyfer Gŵyl y Golau

(https://www.smallworld.org.uk/festival-of-light/). Dewch draw i gael cipolwg cyn i'r

ŵyl ddod i ben ar 2 Ionawr gan eu bod yn werth eu gweld.

Mae Openreach wedi rhoi gwybod nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i gysylltu'r

capel â mynediad rhyngrwyd, felly rydym yn ystyried opsiwn Starlink. Mae

Llywodraeth Cymru wedi rhoi £800 inni trwy Gynllun Grant Mynediad Band Eang

Cymru i hwyluso’r gwaith.

Mae gwaredu’r colomennod yn cymryd hirach i'w ddatrys na oeddem yn tybio.

Ymddengys eu bod yn hoffi'r Tabernacl cymaint ag y mae llawer ohonom ni!

Gobeithio bydd newyddion cadarnhaol gyda ni i’w rannu yn fuan.

Rydym wedi cyflwyno mynegiadau o ddiddordeb i CADW am grant i helpu talu

costau i adnewyddu'r capel a'r llofft yn unol â'r rheoliadau sy'n gymwys i unrhyw

adeilad Gradd 2. Bydd CADW yn rhoi gwybod i ni ym mis Ionawr os ydym wedi

llwyddo neu beidio.

Yn olaf, hoffem ddiolch unwaith eto i'n holl gefnogwyr a gwirfoddolwyr am eu

cymorth. Gobeithio cewch chi Nadolig wrth eich bodd a boed i 2026 ddod â phopeth

yr ydych yn ei ddymuno.

 

 


 
 

01239-920223

4CG, Pwllhai, Aberteifi SA43 1DB

Tanysgrifiwch i'n Blog

Cysylltwch â Ni

bottom of page