Diweddariad ar y Tabernacl Ionawr 2026
- hwbaberteifi
- Feb 4
- 2 min read
Mae saga’r colomennod yn parhau. Tan yn ddiweddar, maent wedi bod yn nythu yn
atig y festri. Bu gweithwyr arbenigol yn eu hel o’r atig ac yn clirio’ r llanast. Llanwyd
77 llon sach o wastraff colomennod o’ r atig! Rydym wir yn gobeithio bod y broblem
wedi ei ddatrys erbyn hyn. Yn fuan iawn byddwn yn medru dechrau paentio a
thacluso tu fewn y festri dop.
Soniwyd mis diwethaf bod ein tenantiaid cyntaf - sef dosbarth addysg oedolion - yn
dechrau ar ôl hanner tymor mis Chwefror. Cawsom ymweliad gan gynrychiolwyr o’r
Cyngor Sir wythnos diwethaf ac roeddent yn fodlon gyda’r trefniadau a’r gwaith
paratoi. Diolch i ‘Cynnal y Cardi’ am ei grant a fu’n gymorth i dalu am offer ar gyfer y
dosbarthiadau .
Bydd ein hail denant yn symud i'r bwthyn yng nghanol mis Chwefror. Mae tipyn bach
o baentio i'w wneud eto, ond mae rhan fwyaf o’r gwaith wedi ei gwblhau.
Mae'r holl wifrau trydanol yn y capel y festri a'r bwthyn wedi'u gwirio a'u hardystio ac
mae'r adeiladau bellach yn sych oddi mewn.
Nid ydym wedi clywed deilliant ein cais am grant gan CADW eto, ond rydym wedi
llwyddo i gael grant gan Gyfeillion i Oedolion Hŷn Ceredigion i helpu sefydlu grŵp
cymorth dementia. Gobeithiwn bydd yr adnodd pwysig yma ar waith erbyn dechrau
Mis Ebrill.
Yn y cyfarfod ym Mis Rhagfyr llynedd, fe gofiwch eich bod wedi cynnig nifer o
awgrymiadau i ni ar gyfer lliwiau’r muriau’r capel. Rydym wedi trafod gyda swyddog
CADW a swyddfa Treftadaeth Ceredigion am y lliwiau a’r math o baent sy’n
dderbyniol oherwydd statws Gradd II yr adeilad. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar
gynlluniau ar gyfer tu blaen y capel gyda’r nod o’i lanhau a’i baentio mewn pryd ar
gyfer yr eisteddfod ym mis Awst. Rhowch wybod os oes cyfle neu awydd gennych i
roi help llaw. Byddem yn ddiolchgar ac yn gwerthfawrogi hynny’n fawr.

Diolch i bawb ohonoch am eich cefnogaeth ac yn enwedig i’r rhai ohonoch a helpodd
i lanhau a gwaredu carthion y colomennod!














