top of page

Diweddariadau Tabernacl Tachwedd 2025

  • hwbaberteifi
  • Feb 4
  • 1 min read

Mae’r gwaith adnewyddu y bwthyn bron ar ben. Gorffennwyd y gwaith paentio ac mae’r problemau lleithder wedi cael eu datrys. Dim ond man bethau sydd angen sylw tu fewn y bwthyn ac rydym yn obeithiol y bydd gennym denant yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mae mwy o waith tu fas i'r wal sy’n wynebu ‘r Pendre ond bydd modd gwneud hyn heb amharu ar y tenantiaid nes ymlaen yn y flwyddyn newydd.

Diolch i'r holl wirfoddolwyr am helpu gyda'r paentio a'r trwsio.

Mae'r gwaith o waredu'r colomennod a glanhau’r carthion wedi dechrau, ond mae’r cynnydd yn araf. 

Cawsom ymweliad gan swyddog Cynllunio Treftadaeth Ceredigion yn ddiweddar. Maent wedi cadarnhau bod yr adeilad gyfan yn rhestredig sy’n cynnwys y bwthyn, y festri a’r capel. Fe fydd hyn wrth gwrs yn cael effaith ar natur yr addasiadau fydd yn bosib.

Ym mis Hydref, cawsom wybod bod ein cais am grant trwy ‘Cynnal y Cardi’ wedi ei dderbyn sy’n ein galluogi i baratoi'r festri ar gyfer dosbarthiadau addysg oedolion.  Rydym wrthi yn archebu offer megis sgriniau rhyngweithiol, gliniaduron, cadeiriau, byrddau a deunyddiau eraill gyda'r nod o ddechrau cynnal dosbarthiadau yn flwyddyn newydd.

Mae’r gwaith o wneud yr adeilad yn glyd ac yn sych yn parhau y tu mewn i'r capel a'r festri. Mae’r system wresogi yn gweithio’n iawn. Mae angen tipyn o waith trwsio ar y ffenestri lliw, yn benodol y plwm sydd wedi plygu mewn mannau.

Diolch o galon i chi i gyd am eich cefnogaeth a'ch cymorth wrth weithio i ddychwelyd y Tabernacl i fod yn adnodd ar gyfer y gymuned unwaith eto.

 

 

 
 

01239-920223

4CG, Pwllhai, Aberteifi SA43 1DB

Tanysgrifiwch i'n Blog

Cysylltwch â Ni

bottom of page